Llifoedd:
Cofnodion
Sylwadau

Dw i ddim wedi diflannu…

Dw i ddim wedi sgwennu am sbel, ond dw i’n yma o hyd (ond dw i ddim yn mynd i ganu fe diolch byth ;) )

Beth dw i wedi bod yn wneud?

Well edrych ar llawer of rygbi wrth gwrs drwy’r Cwpan Rygbi”r byd.  Es i i’r stadiwm Mileniwm am y gem cyn-derfynol.  A pa fath o draed moch oedd hynny!  Hyd yn oed fy mam oedd yn gwybod enw y ref a dyma’n dweud popeth”!

Beth arall…  Dw i’n mwynhau’s cyfres gwaith Cartref ar S4C ac yn edrych heb isdeitlau heb colli’r plot gormod. Hoffais i gyfres arall am y llybr cyhoeddus Sir Benfro heyfd – fy milltar sgwâr!

Dw i wedi dechrau ‘nol mewn dosbarth Cymraeg, Canolradd eleni – mae llawer o adolygu ahyn o bryd.  Mae’n braidd yn araf er gwaetha bod dwywaith yr wythnos.

Es i i Tŷ Tawe Nos Wener i glywed Lleuwen Steffan a Vince Guerin a DnA (Delyth ac Angaharad Jenkins!)

Roedd y dau grwpiau yn wych!  Dw i ddim wedi clywed Sospan Fach ar delyn a fidl erioed!

Ac yn son am cerddoriaeth, dw i’n dal yn dysgu’r recorder hefyd.

Dyma fy set ar Soundcloud.

Y peth mwya anodd ar hyn o bryd yw newid y sefyll fy mysedd a yr un pryd a chwythu y nodyn nesa – yn lle jest cyn neu jest ar ôl i fi symud fy mysedd.  Dych chi’n gallu clywed y problem mewn y alawon mwy cyflym fel Torth o Fara a Deryn y Bwn o Bannau.  Mae’n swnio fel ‘burble’ ar dechrau y nodau.

Ar y llaw arall dw i’n wella gyda nodau uchel.

Ac dw i’n mwynhau!  (Sa i’n siwr os fyddai fy nghymdogion yn cytuno ond…)

Rhywbeth newydd i ddysgu

Mae pethau od yn digwydd a ‘steddfodau…  Am un peth nes i moyn yn sydyn dysgu sut i ganu offeryn…

Nawr, cerddor naturiol dw i ddim!  Unwaith, yn yr ysgol nes i bwrw fy hunan yn y llygad gyda’r ffon-peth am bwrw triongl…  A nes i byth mwy na’r dysgu London’s  Burning neu Heno Heno ar y recorder.

Ond.. Mae recorder gyda a fi eto felly mae buddoddiad yn fach, ac dw i’n credu yn fy nghalon bod e’n possibl am unrhywun i ddysgu unrhywbeth os digon o benderfyniad gyda nhw.

Dw i’n credu sgwennu am rhwybeth yn defnyddiol iawn am ddysgu, ac mae’n pwysig i gael cyfle i edrych ‘n ôl dros dy ymdrechion gynnar.  Yma yw lle cystal a unrhywle am wneud hynny, felly…

Dw i’n defnyddio’r nifer o bethau i ddysgu.

Y wefan yma, acho mae’n addas i oedolion – (dim Twinkle Twinkle arno…) ac mae cerddoriaeth i ddysgu yn swnio’n fel cerddoriaeth hyd yn oed mae’n syml.

Dyma fi yn trio canu un o Wers 5.  “Addas am dy gyngerdd cyntaf” dwedodd e ar y wefan… Sa i’n siwr am hynny…. Ond…

Hefyd, prynais i lyfr bach “Pwt ar y Bys” gyda canueon syml o Gymru.  (Siwr y fod mae nhw’n Twinkle Twinkle Cymraeg ond i fi mae’n mwy ddidorol!).  Yn y cyfwyniad y llyfr mae’n dweud:

“Yng Nghymru, mae plant neu oedolion sy’n dysgu offeryn o’r newydd yn debycach o gael eu cyflwyno i Twinkle Twinkle Little Star nag i Mi Welais Jac y Do!  Ceisio gwneud i am y diffyg hwnnw yw bwriad y llyfryn hwn.”

Mae CDs gyda’s llyfr hefyd.

Dyma’r dau o fy ymdrechion….  Cyntaf, Si Hei Lwli

Wedyn, Dacw Mam yn Dwad.

Dw i’n defnyddio cerddoriaeth o’r wefan 8notes hefyd – dw i wedi dysgu digon i darllen y score ac yn weld os mae siawns gyda fi, ac mae’n neis i ddysgu alawon mod i’n nabod.

Dw i’n o fy hoff caneuon (ond gyda’r camgymeriad neu dau!)

Dw i’n trio ymarfer tua awr pob dydd.

A hyn o bryd mae’r broblem mwya yw’r nodau uchel, yn arbennig y noday sy angen “half-hole”  Sa i’n gallu wneud e eto o gwbl.

Ond dw i’n credu mod i’n gwybod nawr, pam mae gair “uchel” yn golygu “loud” ac “high” yn Gymraeg!  Ouch!

Amser i fynd

Wel, mae’r wythnos wedi dod i ben – Nos Wener aethon ni i’r Sun Trevor i yfed ac yn canu am y tro olaf, ac y bore ‘ma naeth adael Dafydd ac aeth pawb arall i’r Maes. Roedd e’n dawel – hyn yn oed oedd y haul wedi mynd. Roedd pobl dal ym Maes D (yn enwedig pan daeth y glaw!) ond roedd e’n teimlo tipyn fel y bore ar ôl parti.

Doedd neb yn awyddus i adael, ond, yn y diwedd, roedd rhaid i ni.

Ges i lifft o Gary i’r gorsaf trên ‘Wrecasm Canolig’. Camgymeriad oedd hynny! Y gorsaf go iawn yw Wrecsam Cyffredinol – cerddais i’r gorsaf go iawn, yn lle aros. Dim ond pum munud oedd e, ond anghofiais i fy tocyn newydd i’r Amwythig felly roedd rhaid i fi prynu un arall! Mae fy mhen wedi mynd nawr!

Felly, dw i’n eistedd ar y trên nawr. Dyn ni wedi gadael Cymru am sbel ond dw i’n gallu gweld y mynyddoedd yn agosáu eto. Mae rhaid i fi newid yng Nghaerdydd. Bydda i’n gatre cyn amser hir, ond rhywsut mae tipyn o hiraeth arna i. Dw i wedi treulio wythnos yn y canol o’r teulu mawr Cymraeg ac dw i’n mynd i colli fe.

Uchafbwyntiau – y pethau sy’n mynd i aros yn fy mhen… Mae’r Pafiliwn Pinc yn llawn. Mae Dafydd Iwan yn rhoi eu bopeth iddo yn Maes D. Yn dechrau ‘revolution Cymraeg’ yn y Sun Trevor. Yn mynd i’r gwely am dau yn y bore. Yn eistedd un y adfeilion Dinas Bran. Ffrindiau a chaneuon ac hufen ia, ac mwd, a chwerthin.

Y Eisteddfodwyr

Ffoto gan DafyddFelin

Dal i fynny!

Mae wifi yn y dafarn!

Mercher

‘N ôl i’r Maes heddiw ac yn dechrau yn gyffrous ac yn hwyl gyda’r gweithdy Aran: “Dysgu Ieithodd Arall Drwy’r Gymraeg!”

Mae’n swnio fel ‘recipe for chaos’ ond roedd e’n diddorol dros ben – Taflodd pawb eu hunan i mewn ac y lle oedd llawn o chwerthin ac sgwrs. Ro’n i’n defnyddio y fford SSIW, felly dysgon ni cwpl o batrymau a geiriau a wedyn ailgymysgon nhw i wneud brawddegau wahanol.

Pedwar ieithoedd wnaethon ni! Pedwar! Bydd Aran rhoi nhw ar y wefan, dwedodd e. Dw i’n edrych ymlaen! Roedd prawf iawn am y ‘method SSIW’ ac yn diddorol i weld sut mae’n gweithio pan dechrau o’r dechrau gyda iaith.

Arhosais i am y cyflwynwr nesa – Bethan Gwanas ar “Dysgu Pethau Newydd”. Mae hi’n siaradŵr doniol a awyddus iawn ac mae hi’n gwybod yn dda iawn pa lefel i defnyddio gyda criw o ddysgwyr.

Ges i fy mrechdanau ar bwys y llwyfan mawr a gwrandais ar y gerddoriaeth. Pan o’n i’n yna, daeth rhywun draw i fi – “Leia wyt ti? Nabodais i’r cap – Gwraig Andy Hawkins dw i.”

Byd bach iawn yw’r byd Cymry Cymraeg! (ac y byd hedfan hefyd!)

Ges i fy nabod sawlwaith drwy yr wythnos – ‘falle y cap yw e! Digwyddodd yr un peth a Hacio’r Iaith.

Nesa ro’n i moyn mynd i’r weld y Darlith Wyddoniaeth, ond tipyn o siom oedd e – roedd e’n am egni ar Ynys Môn ond jest llawer o ‘propaganda’ oedd e o’r dau ochr am Wylfa B.

Ar y Maes

Ffoto gan DafyddFelin

Wnes i tipyn o siopa – prynais i Thesawrws i Blant – mae’n nhw’n edrych yn ddefnyddiol iawn. (neyuyn fuddiol, neu yn werthfawr, neu yn ymaferol, neu effeithiol neu o werth!)

Ro’n i moyn mynd i’r darlith ym Maes D “Hanes y Eisteddfod ond dechreuodd fe yn gynnar felly collais i…

Felly es i gyda Dee i weld Y Lle Celf. Do’n i ddim yn deall dim byd! Roedd beic wedi torri yn hongian yn y lle, prosiectwr sleidiau mewn tanc o ddŵr a lluniau o pwy’n-gwybod-beth…

Felly mas o’r lle i gael hufen ia!

Gadaelon ni y Maes yn gynnar achos mae Noson Dysgwyr y Flwyddyn ac bydd ciw am y cawod! (Ac mae rhaid i fi smythio top nawr…)

Nes ‘mlaen…

Aethon ni ‘en masse’ i Noson Dysgwyr y Flwyddyn. Gaethon ni dau bwrdd, ac yn rhannu gyda un o’r cystadleuwyr arall, Kay – Enillodd Kay yn y diwedd. Roedd y bwyd yn dda ond oedd y staff yn ffyrnig! Teimlais i fel Oliver Twist! Ond ymlaciodd nhw ar ôl gaeth pawb eu ‘helping’ cyntaf. Roedden nhw pobl ifanc o’r coleg yn wneud cwrs ‘catering’ dw i’n meddwl.

Roedd y cerddoriaeth yn hyfryd. (Ble mae fy thesawrws newydd?) hefyd.

Dydd Iau

Mae’ bore Iau nawr ac dw i’n edrych ar y tywydd, ac yn aros iddi hi’n wella. Dw i moyn mynd i gweld Pontcysllte heddiw. Hoffai Dee yn mynd hefyd. Mae golwg panoramig gyda ni o’r tŷ, dw i’n gallu gweld y tywydd yn newid o flaen fy llygaid! Hanner awr yn ôl do’n i ddim yn gallu gweld y copa’r bryn ar ochr arall yr afon, ond dw i’n gallu nawr, felly mae pethau yn wella.

Nes i drio mynd lawr i’r dafarn i defnyddio eu wifi nhw, ond roedd e’n cau, felly bydd rhaid i fi aros i bostio hon!

Nes ‘mlaen

Wel es i ddim i’r dafarn i ddefnyddio y wifi, ac nawr dw i’n eistedd ym Maes D a dw i’n gallu gweld y wifi ond does dim allwedd gyda fi (a sa i’n gallu ffeindio unrhywun sy’n wybod e!

Ond ges i dydd bendigedig ddoe – es i gyda Dee i weld y pont-cario-dŵr Pontcysllte. Cerddon ni ar y llwybr camlas. Roedd y tywydd yn well na’r rhagolwg felly o’n i’n hapus roedd y llwybr yn wastad! Y pont-cario-dwr yn ardderchog! Cerddon ni dros y bont ac hefyd dan y bont.

Pontcysllte
Pontcysllte

Ffoto gan chelsea_steve

Gaethon ni disgled mewn caffi bach wedyn aethon ni ‘n ôl i Langollen.

Roedd swydd pwysig gyda ni – i brynu’r cig am y BBQ! Mae cigydd neis iawn yn y dre felly aethon ni i mewn a dwedon “Ga i digon o gig am deg person i BBQ!” Hawdd iawn!

Aethon ni’n ôl ar y bws.

Roedd BBQ yn y tŷ Iestyn ac Aran ac oedd e’n llawn o hwyl a sbri! Ro’n ni’n yma nes dau o’r gloch y bore! Roedd e’n anodd i godi y bore ‘ma!

Dydd Gwener

Maes D

Ffoto gan DafyddFelin

Dydd llawn o cerddoriaeth a barddoniaeth heddiw! Ro’n i’n gwirfoddoli ar stondin SSIW drwy’r bore – a wedyn, am sbel, yn wneud awyrennau papur i’r bois bach Iestyn a Cat!

Ar ôl hynny es i i edrych i llwyfan i weld Gwyneth Glyn a Cass Meurig pan o’n i’n bwyta fy mrechdanau. Torrodd lawr y peiriant sain, ond wnaethon nhw jest symud i’r ffrwnt o’r llwyfan ac galwodd pawb i dewch agosa!

‘N ôl ym Maes D clywais i Dafydd Iwan yn canu – Bendegedig! Dyna dyn sy’n caru eu iaith a gwlad a gaeth e pawb yn canu gyda fe!

Es i i sesiwn Tai Chi yn canol y prynhawn. Ymlaciol iawn, ond dyw e ddim yn para am amser hir achos y peth nesa oed y Cadeirio a roedd rhaid i fi fynd a ffeindio fy sedd.

Ro’n i’n wastad yn teimlo emosiynol iawn hyd yn oed pan edrych ar u teledu, ac yn y pafilwn – wel…!

Y Cadeirio

Ffoto gan DafyddFelin

Oedd y Prifardd newydd yn eistedd agos i fi, ac roedd llawer o syndod pan cododd fe achos mae’n mor ifanc. (Ac yn bron yn crio hefyd ond dw i’n gallu deall hynny!) Roedd pawb yn gweiddi ac yn bwrw eu dwylo ac eu troed, fel cyngerdd roc!

Ro’n i’n mor falch i bod rhan o y peth. Mae’n rhywbeth arbennig am wlad ble mae beirdd yn cael ei ddathlu fel ser roc, a ble mae’r ser roc go iawn yn hapus i canu i criw o ddysgwyr mewn pabell be mae babi bach yn trio dringo y llwyfan…

 

 

Dydd i ymlacio heddiw – dechreuais i gyda bath hyfryd yn yr ystafell ymolci cyfforddus, i trio helpu fy mhengliniau druan! Wedyn, ges brechdan cig moch ac ymlacio yn y lolfa i gynllunio y dydd.

Oedd y cynllun yn y diwedd i gerdded lawr i Langollen i weld pryd mae cychod camlas dros Pontcysllte yn mynd. Roedd y daith lawr y camlas yn neis iawn (ac yn hawdd hefyd), a siaradon ni (fi a Diane) llawer o Gymraeg ar y ffordd!

Ond, mae’r problem cyntaf yw… Roedd y deithiau cychod i Bontcysllte yn llawn yn barod. Yn lle aethon ni am daith mewn cwch camlas yn tynnu gan ceffyl! Hedd iawn oedd e. Hyfryd!

Ar y Camlas

Ffoto gan tommypatto ~ IMAGINE

Wedyn aethon ni i ymweld at Cat, Iestyn, y dau corwynt fach ac y babi newydd yn ein tŷ ni. Ar ôl disgled a sgwrs , cynllun B oedd cerdded lan i weld Valle Crucis (Neu Abaty Glyn y Groes). Lle hardd a hedd oedd e. Mae mynach’animatronic’ gyda nhw yn y amgueddfa fach yna sy’n siarad (yn Gymraeg neu Saesneg) am bywyd yn y abaty. Mae nifer o ystafelloedd yn dal yn sefyll hefyd. Edrychon ni o gwmpas ond roedd amser yn fynd a y hir daith gatre oedd yn aros!

Glyn y Groes

Ffoto gan James Stringer

Penderfynon ni i fynd lan y llwybr i ble mae’n ymuno y ‘M4′ ffordd Offa, yn lle myn ‘n ôl i Langollen eto. Roedd e’n gweithio ond nawr mae fy mhengliniau wedi blino yn rhacs!

Yfory, dw i’n mynd i’r Maes drwy’r dydd – mae llawer o bethau diddorol i ddysgwyr yn digwydd.

Doedd dim cynllun ‘da fi am bore Llun ond ro’n i’n moyn mynd i Hacio’r Iaith yn y prynhawn.

Roedd fy mhengliniau wedi blino’n lan hefyd! Ond cerddais i o gwmpas y Maes tipyn, nes i chwarae gyda pethau diddorol yn y Pabell Gwyddoniaeth, wedyn cwrdd a Gareth a Ifan (kinetic ar y fforwm) i fynd i Hacio’r Iaith.

Roedd e’n tipyn fel cwrdd a bobl o’r fforwm achos roedd llawer o bobl yma oedd obl sy dw i’n ‘nabod’ ond jest fel enwau yn fy RSS reader! Roedd e’n bendigedig i rhoi wynebau a lleisiau i’r enwau.

Siaradon ni am cy.umap.eu i gasglu tweets Cymraeg, ap ‘AR’ ar y Maes (chi gallu defnyddio camera a sgrin y ffon-clefar i weld y hen ‘steddfod ‘overlaid’ ar y ‘steddfod go iawn!), caneuon.com, Ap y ‘Steddfod, y prinder o ‘consistency’ yn y hashtags am y ‘steddfod, blog Acen, wiki Hedyn, Y Rhestyr o blogiau Cymraeg (288 o ohonyn!).

Wedyn gaethon ni gweithdy am sut i olygu Wicipedia Cymraeg. Diddorol iawn ac mae mwy o hyderus gyda fi nawr i drio fe.

Dydd Un a Dau yn Tŷ SSIW

Mae’r wythnos y ‘Steddfod wedi dod! Bant a fi! Bore Sadwrn dalais y trên i Amwythig, ble cwrddais i Dafydd. Dethon ni cyrraedd ble mae Dee & Gareth wedi cyrraedd yn barod. (Roedd SJ wedi cyrraedd hefyd, ond roedd hi’n awyddus iawn – ar y maes yn barod yn gwirfoddoli yn Maes D!)

Mae tŷ yn ardderchog! Mae’n enfawr, hyd yn oed gyda wyth ohonyn ni yn aros. Mae patio gyda BBQ, cegin gyda bwrdd fawr (dyna ble mae’r cymdeithasu yn digwydd ar hyn o bryd – dim y ‘stafell fyw! Pobl o’r Cegin ydyn nhw!), popeth…

Wel, yn arfer – dw i’n sgwennu hynny yn y cadair cyfforddus iawn yn yn lolfa!

Mae rhan mwya o’r grŵp wedi mynd i’r maes heddiw ond dw i’n bod ‘incorrigibly independent’ achos dw i wedi rhoi fy nghalon ar cerdded lan i Castell Dinas Bran,

Ffoto gan Andy2580

ac mae tywydd yn addas heddi a pwy sy’n gwybod am yr wythnos…! Mae well ‘da fi cerdded o gwmpas y Maes yn y glaw, na ar llwybrau cyhoeddus yn y baw. Hefyd, ar ôl darllen yr amserlenni mae llawer o bethau dw i moyn wneud nes ‘mlaen yn yr wythnos ar y Maes na heddiw, felly mae’n dydd da i fynd crwydro.

Mae’r tŷ yn lle perffaith am gerdded – mae nifer o lwybrau cyhoeddus yn dechrau neu croesi yma, a mae bont i’r llwybr camlas yn jest lawr y bryn. Es i lan y bryn, gyda Gareth, wedyn nes i droi’r chwith a naeth e droi i’r de i fynd i gerdded i’r pont-cario-dwr Pontcysllte. (Dw i’n gwybod y gair am ‘aqueduct’ nawr – pont-cario-dwr. Gair perffaith!)

Doedd e ddim yn amser hir cyn i fi sylweddoli mod i wedi troi i’r de rhy gynnar – ro’n i’n ar goll… Wel dim yn hollol ar goll ond roedd rhaid i fi droi’n ôl a trio eto!

Des i o hyd y llwybr cywir y tro ‘ma a dilynais i’r llwybr lan a lan a lan, drwy y coedwig, heibio grŵp enfawr o gerddwyr arall (yn mynd y gyfeiriad arall – tipyn o becso!), heibio tŷ-fferm bach hyfryd yn y coedwig (gyda bowlen satelite yn yr ardd…) nes i fi gyrraedd y prif llwybr “Llwybr Clawdd Offa”. Gadaelais i’r llwybr ‘na mor fuan a dw i’n gallu – roedd y golygfeydd yn gwych ond roedd y llwybr yn fel y M4! Syth, tarmac, a llawn o dringwyr yn gweiddi, teuluoedd gyda babis yn sgrechian, beiciau’n cannu ei clychau, ceir gyda pobl yn hogian mas y ffenest yn cymryd lluniau, dynion heb crys mewn flipflops yn dadlau gyda’i gwragedd, ac un pâr yn siarad a top ein llais am elw a cwsmeriaid…

Nes i dianc i’r llwybr mwy hedd dros cae i ddod o hyd y llwybr i’r castell. Roedd y llwybr hon yn tipyn brysur hefyd ond dim fel y ‘Clawdd Offa’. ‘Falle mae’n rhy serth! Roedd pawb ar y llwybr yn gwisgo am cerdded difrifol!

Roedd y castell ei hunan… wel mae’n bron rhy hyfryd i rhoi yn geiriau. Dyna beth sgwennais i ar y copa.

Mae’n hardd yma – anodd i ddweud mor hardd. Dw i’n eistedd ar y copa o hen wal ac yn edrych lawr i Langollen, yn cwtsio yn y cwm. I’r chwith mae’r llwybr camlas yn ystlum i bant ac drosto fe, dan y hen chwarel dw i’n gallu gweld y llwybr cerddais i ac fel dot bach wyn, y tŷ. A waelod y bryn mae safle gwersylla yn fron yn wag. Mae swn yn cario yma – dw i’n gallu clywed y ceir ar y ffordd, a weithiau y chwiban o’r trên stêm. I’r de yw’r pabell Eisteddfod Rhyngwladol a wedyn mae’r dre yn dod i ben. Mae cymoedd yn tro i Fynyddoedd ac mae’r gorwel yn codi a disgyn mewn yn niwl.

Tu ôl i fi yw y castell ei hun. Castell Cymreig yw e, a rhywsut mae’n teimlo yn wahanol i gestyll Normanaidd. ‘Falle mae’n jest y lliw wahanol i’r cerrig adre, ond mae ysbryd yma. Ysbryd hen. Ysbryd hudol.

Mae rhywun wedi tynnu lluniau gyda’r llechi wedi torri, cerrig llwyd ar y gwallt gwyrdd – ceffyl, cylchau, llew.

Dyw ddim llawer o’r castell yn sefyll nawr. Bwa porth heb waliau. Corneli ar ei ben ei hun. Ond mae arbennig yma beth bynnag. Dw i’n credu mod i’n syrthio mewn cariad gyda’r lle tipyn bach.

Castell Dinas Bran

Ffoto gan Logic Hat

Dyw amser byth yn stopi, hyd yn oed mewn hen gestyll ac ar ôl bwyta fy mrechdanau, cerddais i lawr i Langollen ar y llwiybr igam-ogam (ac llai serth!). Lawr mewn mwy ffordb na un achos cwmpais i ar fy mhen-ôl cyn gadael y lle!

Mae Llangollen yn dre bert, gyda nifer of siopau llyfrau ail-dwylo, ond mewn ffordd mae’n tipyn fel nifer o drefi twristiaid arall. Dim byd yn gweddi mas i fi amdano.

Wel dim ond un peth… Un o’r siopau gwerthu pethau bach i’r twristiaid yn enwi “Siopfachcardiauwrthybontdrosyrafondyfrdwyynllangollen.” (Am y bobl sy ddim yn mynd y holl ffordd i LanfairPG ‘falle!)

A nawr mae pawb wedi cyrraedd ‘n ôl o’r Maes felly amser i stopio sgwennu a cael golchi cyn bwyta!

(A nawr dw i’n ar y wifi yn yr dafarn yn postio!)

Castell Ystumllwynarth

Ailagorodd Castell Ystumllwynarth ddoe ar ôl gaef llawn o waith adfer.  Ac llawn o eira a trwyddedau ystlumod i ddweud y gwir! (Ie – roedd isio i ni Trwydded Ystlum i weithio yn ystafell cefn y castell…  Mae pipistrelles neu rhywbeth-fel-na yn byw mewn un seler)

Es i lawr i helpu gyda’r stond Ffrindiau’r Castell ac cynlluniais i arwain un daith i ddysgwyr.  Syniad munud olaf oedd e, ond dw i’n gwybod digon am y castell i “wing it” gyda’r siarad!

Wel, dyna oedd cynllun… ond… Pan nes i gyrraedd am bum munud i deuddeg, roedd ciw hir iawn un barod am tocynnau’r daith (Saesneg) a cyn chwarter wedi deuddeg gaeth y cyfan ei werthu.

Roedd llawer o ymwelwyr anhapus…

Wel, mae Ffrindiau – dyn i jest ddim yn hoffi ymwelwyr anhapus o gwbl, felly roedd e’n “all hands on deck” a treblu’r nifer o deithiau!  A fi oedd un o’r arweinwyr ychwanegol.  Felly ro’n i wedi blino yn barod – cyn yr amser Taith Dysgwyr.

Yn ffodus – neu yn anffodus – dim ond Nneka o’r fforwm SSIW wedi cyrraedd, felly, i gael mwy o bobl, orymdeithiais i lan a lawr y ciw yn gweiddi, yn uchel, “Oes dysgwyr yma?  Taith i ddysgwyr yn dechrau nawr!”

Des i o hyd un dysgwr arall.  Nes i moyn mwy o bobl na hynny, felly lan a lawr y ciw eto… “Taith Nesa yn Gymraeg!  Os dych chi’n moyn gwneud y daith yn Gymraeg, yn lle aros yn y ciw, dewch gyda fi nawr!”

Daeth teulu bach o siaradwyr gyda fi hefyd.  Iawn.  Grŵp o bump.  Well na un.  Bant a ni!

Esboniais bod i’n ddim ond dysgwr fy hun a gofynnais i am amynedd gyda fy Nghymraeg!

Aethon ni o gwmpas y castell a siaradais i am y hanes, y gwaith adfer, y canolfan ymwelwyr newydd, y bont gwydr ar lefel y ffenest enfawr, ac y darlun canoloesol o angel yn y capel.  Gaeth e ei ffeindio gan y gweithwyr adfer pan daethon nhw yr eiddew a budleia i lawr!

Yn anfoddus, achos doedd neb yn gwybod roedd e’n ‘na, doedd dim arian yn y cynlluniau i wneud dim byd amdano!  Felly mae rhaid i ni ailmeddwl am y peth nawr!

Dw i wedi bod gwirfoddoli yn y Castell ers mwy na deg mlynedd nawr ac roedd e’n gwych i cael cyfle i rhannu y lle gyda pobl newydd.  Ac i bod yn gallu i wneud e yn Gymraeg… Hyd yn oed Gymraeg tipyn sigledig… Wel.  Dyna ardderchog!

Modryb dw i! (eto)

Gaeth fy nai bach newydd ei eni dros y penwythnos diwetha.  Cyrhaeddodd e yn gynnar ond roedd e’n ffit ac iach a daeth e adre’r un dydd.

Caelin yw ei enw e.  Dyma fe (a fi)

Mae pawb yn dweud fod e’n golwg fel ei dad ond dw i’n credu fod e’n golwg fel hobbit wedi’i ferwi… fel pawb babis.

Ond mae’n wych yn bod yn modryb – dw i’n gallu prynu y teganau mwya swnllyd a sy’n gweund llanast -  a wedyn, rhoi nhw’n ‘n ôl i fam a tad!

Mae pedwar nai ac un nith sy gyda fi nawr (yn gynnes llys-teulu) ac dw i’n wrth fy modd!

Yma…

Yn aml dros y misoedd diweddar dw i wedi cyraedd adre o’r gwaith i ddod o hyd rhywbeth newydd ar y tŷ… To newydd, ffenestri newydd, drws frwnt newydd, hyd yn oed carreg y drws newydd heddiw!

Mae’n rhan o’r Prosiect Adnewyddu Hafod.  Mae’n cymryd achau ond mae’n dda iawn.  (Ond dw i wedi cael llond bol o ddim yn cael lle yn yr ardd i sychu dillad achos y scaffolding)

Dw i’n hoffi byw yn y Hafod – dyw e ddim yn ardal posh iawn, ond mae’r pobl yn cyfeillgar – dw i’n nabod fy nghymdogion, mae’r plant yn dod i’r drws i gofyn am noddi, neu ‘ceiniog am Guto Ffowc’ ac y dyn drws nesa sy’n hoff iawn o DIY yn ymddiheuro am y sŵn mae e’n wneud!  Yn y siop popeth ar y stryd nesa mae dyn yn nabod pawb ac yn cadw y epthau ‘price marked’ am y regulars!

Mae’n cyfleus iawn hefyd a dw i ddim yn gyrru felly dyna peth pwysig i fi. Dw i’n gallu cerdded i’r gwaith mewn 15 munud, y gorsaf trên mewn 10 ac y dref mewn 20.

Dw i’n rhannu y tŷ – cegin, lolfa ac ystafell ymolchi, felly dyw e ddim yn rhy ddrud.

A…… dw i’n gobeithio does dim rhaid i fi siarad am Y Ardal neu Y Tŷ yn fy arholiad dydd Gwener achos dyna popeth dw i’n gallu meddwl i ddweud… ;)

Cofnodion Hŷn »

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.