Dydd i ymlacio heddiw – dechreuais i gyda bath hyfryd yn yr ystafell ymolci cyfforddus, i trio helpu fy mhengliniau druan! Wedyn, ges brechdan cig moch ac ymlacio yn y lolfa i gynllunio y dydd.
Oedd y cynllun yn y diwedd i gerdded lawr i Langollen i weld pryd mae cychod camlas dros Pontcysllte yn mynd. Roedd y daith lawr y camlas yn neis iawn (ac yn hawdd hefyd), a siaradon ni (fi a Diane) llawer o Gymraeg ar y ffordd!
Ond, mae’r problem cyntaf yw… Roedd y deithiau cychod i Bontcysllte yn llawn yn barod. Yn lle aethon ni am daith mewn cwch camlas yn tynnu gan ceffyl! Hedd iawn oedd e. Hyfryd!
Wedyn aethon ni i ymweld at Cat, Iestyn, y dau corwynt fach ac y babi newydd yn ein tŷ ni. Ar ôl disgled a sgwrs , cynllun B oedd cerdded lan i weld Valle Crucis (Neu Abaty Glyn y Groes). Lle hardd a hedd oedd e. Mae mynach’animatronic’ gyda nhw yn y amgueddfa fach yna sy’n siarad (yn Gymraeg neu Saesneg) am bywyd yn y abaty. Mae nifer o ystafelloedd yn dal yn sefyll hefyd. Edrychon ni o gwmpas ond roedd amser yn fynd a y hir daith gatre oedd yn aros!
Penderfynon ni i fynd lan y llwybr i ble mae’n ymuno y ‘M4′ ffordd Offa, yn lle myn ‘n ôl i Langollen eto. Roedd e’n gweithio ond nawr mae fy mhengliniau wedi blino yn rhacs!
Yfory, dw i’n mynd i’r Maes drwy’r dydd – mae llawer o bethau diddorol i ddysgwyr yn digwydd.


