Mae wifi yn y dafarn!
Mercher…
‘N ôl i’r Maes heddiw ac yn dechrau yn gyffrous ac yn hwyl gyda’r gweithdy Aran: “Dysgu Ieithodd Arall Drwy’r Gymraeg!”
Mae’n swnio fel ‘recipe for chaos’ ond roedd e’n diddorol dros ben – Taflodd pawb eu hunan i mewn ac y lle oedd llawn o chwerthin ac sgwrs. Ro’n i’n defnyddio y fford SSIW, felly dysgon ni cwpl o batrymau a geiriau a wedyn ailgymysgon nhw i wneud brawddegau wahanol.
Pedwar ieithoedd wnaethon ni! Pedwar! Bydd Aran rhoi nhw ar y wefan, dwedodd e. Dw i’n edrych ymlaen! Roedd prawf iawn am y ‘method SSIW’ ac yn diddorol i weld sut mae’n gweithio pan dechrau o’r dechrau gyda iaith.
Arhosais i am y cyflwynwr nesa – Bethan Gwanas ar “Dysgu Pethau Newydd”. Mae hi’n siaradŵr doniol a awyddus iawn ac mae hi’n gwybod yn dda iawn pa lefel i defnyddio gyda criw o ddysgwyr.
Ges i fy mrechdanau ar bwys y llwyfan mawr a gwrandais ar y gerddoriaeth. Pan o’n i’n yna, daeth rhywun draw i fi – “Leia wyt ti? Nabodais i’r cap – Gwraig Andy Hawkins dw i.”
Byd bach iawn yw’r byd Cymry Cymraeg! (ac y byd hedfan hefyd!)
Ges i fy nabod sawlwaith drwy yr wythnos – ‘falle y cap yw e! Digwyddodd yr un peth a Hacio’r Iaith.
Nesa ro’n i moyn mynd i’r weld y Darlith Wyddoniaeth, ond tipyn o siom oedd e – roedd e’n am egni ar Ynys Môn ond jest llawer o ‘propaganda’ oedd e o’r dau ochr am Wylfa B.
Wnes i tipyn o siopa – prynais i Thesawrws i Blant – mae’n nhw’n edrych yn ddefnyddiol iawn. (neyuyn fuddiol, neu yn werthfawr, neu yn ymaferol, neu effeithiol neu o werth!)
Ro’n i moyn mynd i’r darlith ym Maes D “Hanes y Eisteddfod ond dechreuodd fe yn gynnar felly collais i…
Felly es i gyda Dee i weld Y Lle Celf. Do’n i ddim yn deall dim byd! Roedd beic wedi torri yn hongian yn y lle, prosiectwr sleidiau mewn tanc o ddŵr a lluniau o pwy’n-gwybod-beth…
Felly mas o’r lle i gael hufen ia!
Gadaelon ni y Maes yn gynnar achos mae Noson Dysgwyr y Flwyddyn ac bydd ciw am y cawod! (Ac mae rhaid i fi smythio top nawr…)
Nes ‘mlaen…
Aethon ni ‘en masse’ i Noson Dysgwyr y Flwyddyn. Gaethon ni dau bwrdd, ac yn rhannu gyda un o’r cystadleuwyr arall, Kay – Enillodd Kay yn y diwedd. Roedd y bwyd yn dda ond oedd y staff yn ffyrnig! Teimlais i fel Oliver Twist! Ond ymlaciodd nhw ar ôl gaeth pawb eu ‘helping’ cyntaf. Roedden nhw pobl ifanc o’r coleg yn wneud cwrs ‘catering’ dw i’n meddwl.
Roedd y cerddoriaeth yn hyfryd. (Ble mae fy thesawrws newydd?) hefyd.
Dydd Iau
Mae’ bore Iau nawr ac dw i’n edrych ar y tywydd, ac yn aros iddi hi’n wella. Dw i moyn mynd i gweld Pontcysllte heddiw. Hoffai Dee yn mynd hefyd. Mae golwg panoramig gyda ni o’r tŷ, dw i’n gallu gweld y tywydd yn newid o flaen fy llygaid! Hanner awr yn ôl do’n i ddim yn gallu gweld y copa’r bryn ar ochr arall yr afon, ond dw i’n gallu nawr, felly mae pethau yn wella.
Nes i drio mynd lawr i’r dafarn i defnyddio eu wifi nhw, ond roedd e’n cau, felly bydd rhaid i fi aros i bostio hon!
Nes ‘mlaen
Wel es i ddim i’r dafarn i ddefnyddio y wifi, ac nawr dw i’n eistedd ym Maes D a dw i’n gallu gweld y wifi ond does dim allwedd gyda fi (a sa i’n gallu ffeindio unrhywun sy’n wybod e!
Ond ges i dydd bendigedig ddoe – es i gyda Dee i weld y pont-cario-dŵr Pontcysllte. Cerddon ni ar y llwybr camlas. Roedd y tywydd yn well na’r rhagolwg felly o’n i’n hapus roedd y llwybr yn wastad! Y pont-cario-dwr yn ardderchog! Cerddon ni dros y bont ac hefyd dan y bont.
Gaethon ni disgled mewn caffi bach wedyn aethon ni ‘n ôl i Langollen.
Roedd swydd pwysig gyda ni – i brynu’r cig am y BBQ! Mae cigydd neis iawn yn y dre felly aethon ni i mewn a dwedon “Ga i digon o gig am deg person i BBQ!” Hawdd iawn!
Aethon ni’n ôl ar y bws.
Roedd BBQ yn y tŷ Iestyn ac Aran ac oedd e’n llawn o hwyl a sbri! Ro’n ni’n yma nes dau o’r gloch y bore! Roedd e’n anodd i godi y bore ‘ma!
Dydd Gwener
Dydd llawn o cerddoriaeth a barddoniaeth heddiw! Ro’n i’n gwirfoddoli ar stondin SSIW drwy’r bore – a wedyn, am sbel, yn wneud awyrennau papur i’r bois bach Iestyn a Cat!
Ar ôl hynny es i i edrych i llwyfan i weld Gwyneth Glyn a Cass Meurig pan o’n i’n bwyta fy mrechdanau. Torrodd lawr y peiriant sain, ond wnaethon nhw jest symud i’r ffrwnt o’r llwyfan ac galwodd pawb i dewch agosa!
‘N ôl ym Maes D clywais i Dafydd Iwan yn canu – Bendegedig! Dyna dyn sy’n caru eu iaith a gwlad a gaeth e pawb yn canu gyda fe!
Es i i sesiwn Tai Chi yn canol y prynhawn. Ymlaciol iawn, ond dyw e ddim yn para am amser hir achos y peth nesa oed y Cadeirio a roedd rhaid i fi fynd a ffeindio fy sedd.
Ro’n i’n wastad yn teimlo emosiynol iawn hyd yn oed pan edrych ar u teledu, ac yn y pafilwn – wel…!
Oedd y Prifardd newydd yn eistedd agos i fi, ac roedd llawer o syndod pan cododd fe achos mae’n mor ifanc. (Ac yn bron yn crio hefyd ond dw i’n gallu deall hynny!) Roedd pawb yn gweiddi ac yn bwrw eu dwylo ac eu troed, fel cyngerdd roc!
Ro’n i’n mor falch i bod rhan o y peth. Mae’n rhywbeth arbennig am wlad ble mae beirdd yn cael ei ddathlu fel ser roc, a ble mae’r ser roc go iawn yn hapus i canu i criw o ddysgwyr mewn pabell be mae babi bach yn trio dringo y llwyfan…


