Wel, mae’r wythnos wedi dod i ben – Nos Wener aethon ni i’r Sun Trevor i yfed ac yn canu am y tro olaf, ac y bore ‘ma naeth adael Dafydd ac aeth pawb arall i’r Maes. Roedd e’n dawel – hyn yn oed oedd y haul wedi mynd. Roedd pobl dal ym Maes D (yn enwedig pan daeth y glaw!) ond roedd e’n teimlo tipyn fel y bore ar ôl parti.
Doedd neb yn awyddus i adael, ond, yn y diwedd, roedd rhaid i ni.
Ges i lifft o Gary i’r gorsaf trên ‘Wrecasm Canolig’. Camgymeriad oedd hynny! Y gorsaf go iawn yw Wrecsam Cyffredinol – cerddais i’r gorsaf go iawn, yn lle aros. Dim ond pum munud oedd e, ond anghofiais i fy tocyn newydd i’r Amwythig felly roedd rhaid i fi prynu un arall! Mae fy mhen wedi mynd nawr!
Felly, dw i’n eistedd ar y trên nawr. Dyn ni wedi gadael Cymru am sbel ond dw i’n gallu gweld y mynyddoedd yn agosáu eto. Mae rhaid i fi newid yng Nghaerdydd. Bydda i’n gatre cyn amser hir, ond rhywsut mae tipyn o hiraeth arna i. Dw i wedi treulio wythnos yn y canol o’r teulu mawr Cymraeg ac dw i’n mynd i colli fe.
Uchafbwyntiau – y pethau sy’n mynd i aros yn fy mhen… Mae’r Pafiliwn Pinc yn llawn. Mae Dafydd Iwan yn rhoi eu bopeth iddo yn Maes D. Yn dechrau ‘revolution Cymraeg’ yn y Sun Trevor. Yn mynd i’r gwely am dau yn y bore. Yn eistedd un y adfeilion Dinas Bran. Ffrindiau a chaneuon ac hufen ia, ac mwd, a chwerthin.
