Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Addunedau Blwyddyn Newydd

Dyma nhw!

Bwyta yn fwy iach (ac yn rhatach)

Y cynllun – Mwy o ffibr, mwy o ddŵr, mwy o goginio yn lle prynu take-away.

Sut mae’n mynd – Iawn. A y ffrwnt coginio mae myn yn da. Dw i wedi prynu digon o bwyd a dw i’n coginio pethau o fy hen llyfr “Grub on a Grant”! Dw i wedi anghofio pa mor dda ydy e! Bwyd rhad a blasus a hawdd. Ar y ffrwnt dwr mae’n anodd. Dw i’n yfed gormod o goffi pan dw i’n gweithio ac anghofio y dwr. Dw i wedi bod yn cadw rhestyr o faint o dwr gest i ac mae’n tua pedwar neu phump gwydr yr dydd. Dw i’n moyn mwy fel chewch. Mae’n waeth dros y penwythnos pan dw i’n mas y tŷ yn aml iawn. Ar y ffrwnt ffibr mae’n myn yn iawn ond araf. Dw i wedi bod yn ychwanegu ceirch a chnau i llawer o bethau ac yn bwyta mwy o grawnfwyd. Dw i wedi prynu reis brown hefyd ond mae’n llawer arafach i goginio na reis gwyn! 24Gram o ffibr dylwn i fwyta medden nhw ond dw i’n gael dim ond tua 17 ar hyn o bryd hyd yn oed gyda’r newidau.

Siopa yn Lleol

Y cynllun – llai o arian i cwmnïau enfawr a rhyngwladol a mwy i’r economi Cymru a fusnesau bach.

Sut mae’n mynd – Am pethau fel anrhegion mae’n haws a ddidorol i wneud. Dw i wedi ffeindio llawer o siopau ar-lein Cymraeg a Chymreig neis iawn. Dw i wedi bod yn Googlio enwau pethau dw i’n moyn yn Gymraeg fel “cardiau penblwydd” i ddod o hyd wefannau da. Ges i cwpl o problemau – weithio mae busnesau bach yn arafach na busnesau mawr a dw i wedi colli un penblwydd drwy peidio gadael cerdyn ar amser! Gyda bwyd weithiau mae rhaid i fi dewis rhwng bwyd lleol a bwyd rhatach – yn arbennig achos dw i ddim yn gyrru a rhai pethau sa’n moyn cario pan mae archfachnod llawr y stryd! Dw i ddim yn bod rhy llwm gyda bwyd. Oes dw i’n gallu prynu fe yn y siop popeth ar y cornel wedyn dw i’n wneud e ond rhai pethau dw i’n dal yn prynu o Sainsbury. Hoffwn i brynu mwy o llysiau o’r marchnad ond dyw’rae oriau agor ddim yn cyfleus o gwbl gyda gwaith.

Geiriau Newydd a Rhifau

Am y tro cyntaf, dw i’n gwybod gair yn Cymraeg ond dim yn Saesneg.

Dw i ddim yn dweud mod i ddim yn adnabod y gair, a roedd isio i fi edrych yn y geiriadur. Mae ‘na ganoedd o geriau fel hyn!

Y gair hwn yn wahanol. Gyda’r gair hwn dw i yn gwybod ystyr y gair ond dw i ddim yn gwybod y gair am yr ystyr hwn yn Saesneg.

Profiad wahanol iawn i fi!

Mae’n enghraifft o “Conceptual Vocabulary”. Ro’n i’n darllen am “Conceptual Vocabulary” sbel yn ôl. Mae pobl sy’n astudio ieithoedd a addysg a sut mae plant yn datblygu yn son am y peth. Gyda plant bach dwyieithiog mae eu “conceptual vocabulary” nhw’n cynnwys pob cysyniad mae gair amdano gyda nhw

Felly, os mae nhw’n gwybod “cat” yn Saesneg a “ci” yn Cymraeg mae ‘conceptual vocabulary’ gyda nhw am y dau pethau – cat a ci, neu cat and dog.

Mae fy ngair newydd fi yw “craidd”. Yn y byd mathmateg “craidd y rhif” yw y rhif dych i’n cael os dych chi’n adio pob rhif mewn rhif arall eu gilydd. Felly “craidd cant pedwar deg dau yw 1+4+2 = 7”

Dw i’n deall ystyr y gair – y cysyniad. Mae’n rhwybeth tebyg i ffordd o wneud ‘checksum’ syml. Ond beth yw’r gair go iawn yn Saesneg? Siwr y fod gallwn i’n Googlio am “The number you get if you add all the digits in another number together” ond dw i bron yn amharod i wneud e…

Ar hyn o bryd y gair am y cysyniad hwn yw “craidd”

A mae’n diddorol iawn.

(Daeth y gair o llyfr diddorol dros ben o’r enw Mae Pawb yn Cyfri gan Gareth Ffowc Roberts.)

Meistroli Trwy’r post Uned 1

Dechreuais i Feistroli Trwy’r post gyda Prifysgol Bangor tua mis yn ôl yn lle cwrs nos eleni achos does dim cwrs ar gael am amser da i fi.

Dw i newydd gael fy uned cyntaf yn ôl a dw i’n braidd yn hapus. Doedd dim cymaint o wallau i wneud i fi becso am y lefel beth bynnag!

Defnyddiais i Soundcloud i anfon fy ngwaith siarad i fewn, a naeth e’n gweithio yn dda mod i’n credu – ges i tic beth bynnag!

Pwnc oedd ‘statws y Gymraeg’ – diddorol!

Ar y llaw arall, dw i ddim yn hapus am nifer o wallau nes i yn y gwaith ysgrifennu – wallau mod i’n gwybod yn angywir fel treigladau meddwl ar goll ar ôl o ac yn yn newid i ‘n ar ôl llafariad.

Yn y gwaith mae rhaid i ni cadw cofnod o wallau ein myfyrwyr ni fel rhan o bedded literacy’ a monitro drwy’r cwrs. Felly, dw i’n mynd i trio yr un dull ar fy ngwaith fy hun – fel arbrawf… Fydd e’n helpu? Welon ni.

Dyma fy rhestr i ddechrau… Pethau dw i’n gwybod ond dw i’n colli nhw pan darllen drwy fy ngwaith.

Heddiw yw Diwrnod Ada Lovelace.

‘Falle mod ti’n tybed, ‘pwy oedd hi ‘te’

Gofynnodd fy myfyrwyr TGch hyd yn oed – ond mae ateb fyr yw “y person cyntaf i rhaglenni cyfrifiadur…”

Peth pwysig iawn yn arbennig achos does dim digon o merched yn y byd technoleg. Dw i’n gwybod yn iawn – dw i’n gallu cofio i golygfeydd od ges i a cyd-weithwyr (menyw arall) o bobl pan cyrhaeddodd y dwy ohonyn ni gyda offer, ac ysgolion a ceblau i rhoi’r rhwng-waith i mewn! Edrychodd pobl arnyn ni a wedyn heibio ni – edrychodd am y dyn. (Achos wrth cwrs dyn oedd yna – doedd dim siawns oedd dwy merched i rhoi ceblau i fewn!)

Heddiw dw i ddim yn rhoi rhwngweithiau i fewn – dw i’n dysgu pobl arall i wneud e ac o hyn a bryd mae tua 25% o fy prentisau TGCh a Telathrebu yn fenyw. Ac dyna yn anarferol – y uchaf mae e wedi bod erioed.

Felly mae isio i mwy o ‘arwyr’ technoleg i ferched ifanc.

Mae’n anodd, hyd yn oed i fi i meddwl am nifer fawr… Yn arfer yn fy nosbarth Gyrfa Chwilio Swyddi dw i’n defnyddio enghreifftiau fel Marissa Mayer (achos – wel – peiriannydd cyntaf sy’n menyw yn Google yw rhywbeth i wneud pobl rho sylw) , Carol Bartz (achos dw i’n hoffi eu ‘soundbites’ hi), a Mary Lou Jepsen (achos – teclynnau arch-cŵl)

Ond yn fy mywyd i oedd pobl llawer llai enwog a cyfoethog oedd yn ysbrydoli fi ac amdanyn nhw dw i’n moyn swgennu tipyn.

Cwpl o fenywod sy wedi rhan o’r reswm dw i’n dwli ar pethau technolegol a gwyddoniaeth…

Mam yw’r cyntaf… Dw i’n credu oedd fy nhad yn moyn mab rili – nid merch, ond chwarae teg nes e popeth gyda fi dylai fe wedi wneued gyda mab. A chwarae teg i fy mam – oedd hi’n hapus i fi i dreulio oriau yn y sied gyda dad, mwy o oriau lan lofft gya fy BBC Micro, gymryd drosto y teledu i edrych ar rhaglenni natur, neu gwyddoniaeth, neu Tomorrow’s World (ac ble mae fy ngar sy’n hedfan heddiw beth bynnag?!), wneud llanast enfawr yn y cegin gyda, Roed rhais iddi hi aros am fy chwaer i chyraedd i gael ferch fach i wisgo mewn pinc a chwarae gyda doliau… Diolch am aros, mam!

Ges i dwy athrawes arbennig yn y ysgol hefyd:

Mrs Morris – athawes gwyddoniaeth, a llawn o diddordeb yn y pwnc ac awyddus i rhannu fe. Dw i’n cofio sodiwm mewn dŵr a pethau cyffrous fel hyn. Ges i reit dadl gyda’r ysgol dros dewis TGAU achos do’n i ddim yn gallu cymryd gwyddoniaeth fel tri pwnc… Roedd rhaid i fi wneud rhywbeth twp o enw ‘Double Award’ – a ddygodd Mrs Morris ddim y cwrs ‘na y flwydden ‘na. Flynyddoedd wedyn pan o’n i’n dysgu hedfan darganfodais i bod hi wedi briodi un o fy hffordwyr! Byd bach.

Mrs Phillips – athrawes cyfrifiaduron. O’n i yn y dosbath cyntaf o TGAU Cyfrifiaduron a dw i’n gwybod nawr roedd isio Mrs Phillips dysgu yn gloi ei hun! Do’n i ddim yn gwybod hynny wedyn wrth cwrs achos roedd hi’n athrawes mor dda. Dw i’n cofio hi fel ‘hen’ o’n beth yw ‘hen’ i ferch 16 oed sai’n gwybod. Siwr o fod doedd hi ddim yn hen o gwbl! O’n i’n yr unig merch yn y dosbarth ond wnes i rhaglenni a prosiectau diddorol a llawer o bethau da.

Mwy diweddar, y person sy’n neido’r fy meddwl fel ysbrydoliaeth yw Wendly Sadler o Sience Made Simple. Mae hi’n mynd i mewn i ysgolion i wneud “Gwyddoniaeth Cyffrous!” and mae hi’n siaradwr a cyflwynwr da da iawn.  (A mae’n hawdd i wastraffu llawer o amser ar eu wefan yn wneud pethau fel hyn…)

Pwy sy’n ysbrydoli chi yn y byd gwyddoniaeth a thechnoleg ‘te?

Peilot bochdew ar Hwb ;)

Sbel yn ôl sgwennais i am ffilmio gyda Hwb. A dyma’r peth! (O’n i wedi anghofio am y wyneb bochdew ges i y dydd ‘na – ofnadwy!)

Ond mae’r maes awyr yn edrych yn braf ac y torriadau yn wneud i fi swnio fel mod i gwybod am beth dw i’n siarad felly… 😉

Welais i bapur diddorol yn fy RSS ddoe. Mae Esther Barrett wedi bod yn astudio dwyieithrwydd yn y maes addysg cymunedol. Mae nifer o bethau technegol yn y papur ond llawer o bethau diddorol hefyd. Mae hi wedi bod yn wneud cyfweliadau, yn gofyn cwestiynau a rhywbeth o enw “artefact interviews” sy’n swnio yn ffordd grêt i gasglu tystiolaeth -siarad am rhywbeth y dysgwr wedi wneud. Yn y byd NVQ dyn ni’n galw fe “Profesional Discussion.”

A mae llwyth o bethau sy’n yr union fel y dadl dros technoleg, e-dysgu a rhyngweithiadau cymdeithasol a pethau mewn unrhyw iaith! “Mae’n wneud i ni gyd yn ddiog / gwrth-gymdeithasol / anllythrennog” ac yn y blaen.

Ydy e’n peth drwg os mae rhywun yn defnyddio’r cyfrifiadur i gywiro ei sillafu, neu treigladau? Dw i’n wneud e – does dim “moral high ground” gyda fi ac athrawes dw i! Well, mae tipyn – achos dw i’n drio gweithio mas beth yw’r problem pan mae gair yn danlinello yn goch yn lle de-clicio a dyfalu fel rhai o fy nhysgwyr Saesneg (Un ohonyn sy’n edrych ymlaen at “the piratical parts of the course” yn ôl ei gwaith ysgrifennu hi!).

Dyn ni ddim yn gallu trio dysgu mewn ffordd sy’n mor wahanol i sut mae pawb yn wneud pethau yn y byd go iawn. Dyw e ddim yn helpu neb.

Gyda llaw, roedd rhaid i fi chwerthin tipyn am y dyfyniad o rhywun sy’n “casáu byrfoddau” ac cariodd ymlaen i ddweud bod nhw’n “make written lang. sloppy & give you a far more basic vocabulary.” (Pwyslais fi! Ymmm…? Ga i codi pwynt bach??)

Ro’n i’n anghytuno yn llwyr hefyd gyda y person oedd yn dweud, “the diversity agenda has linguistic implications. We teach our children not to pass judgement on regional dialects or non-native speakers. In the process we loosen our grip – for better or worse – on a notion of linguistic correctness and consistency.”

Wel… Sa i’n siwr os mae dweud “paid yn bod yn gas i bobl sy ddim yn dda am sgwennu” yw yr un peth fel dweud “paid becso am ddysgu sut i wneud e’n dda”

Mae’n gormod fel dweud, “rehabiliting criminals instead of hanging them is teaching our children it’s okay to be a crook.”

(Hefyd dw i newydd defnyddio “sa” a “sgwennu” a sa dw i ddim yn moyn trafferth 😉

Mwy diddorol oedd y syniad bod ‘netspeak’ yn fath newydd o iaith – nid ysgrifennu na siarad. Hefyd i ddysgu bod ‘na nifer o diwylliannau ble mae’r anfurfiol yw y tafodiaith cywir i ddweud straeon. Dw i’n darllen Un Diwrnod yn U Eisteddfod gan Robin Llywelyn ar hyn o bryd a mae’r iaith a sillafu yn anffurfiol ac yn ansafonol iawn. Ac enillodd Gwobr Daniel Owen y llyfr ‘ma!

Doedd e ddim synnu i ddarllen bod hyder yn broblem mawr i lawer o bobl. Mae’n anodd yn y byd addysg achos mae ‘na targedi i wella llythrennog ond hefyd dych chi ddim yn moyn codi ofn o ysgrifennu ar neb. Dw i’n ffeindio y balans (cydbwyso? – Dw i’n ail-dyfalu fy hun nawr, yn meddwl am iaith gormod!) yn anodd yn fy nosbarthiadau Sgiliau Sylfaenol fy hun.

Mae ‘peth’ llythrennog yn effeithio pobl uniaith Saesneg hefyd – mae’r pwynt am wefannau llywodraeth yn gywir. Dydyn nhw ddim i hawdd i ddarllen o gwbl. Ffurfiol dros ben.

Roedd y resymau esboniodd pobl ar gyfer defnyddio Cymraeg (neu dim!) yn ddiddorol hefyd. Mae ‘code-switching’ sef newid o un iaith i un arall yn digwydd achos y pwnc neu’r sefydliad – nid yn ôl gallu. Felly mae llawer o bobl yn defnyddio technolog yn Saesneg jest achos mae nhw’n teimlo fel Saesneg yw iaith naturiol a chyfarfod cyfrifiaduron.

Oedd llawer o wahaniaeth hefyd rhwng pobl sy’n teimlo yn gryf am ddefnyddio Cymraeg ar pethau fel wefannau a peirannau arian ‘achos mae bobl wedi mynd i’r drafferth o gyfieithu’ a phobl sy ddim yn becso o gwbl. Dw i wedi glanio ar ochr “Defnyddiwch” am resymau tebyg – dw i moyn y bobl sy’n darllen y rhifau i wybod mae na galw am Gymraeg! Dw i ddim yn moyn fy newis i i ychwanegu i’r esgus “There’s no demand for Welsh”

Ond weithiau, fel rhai o’r pobl yn yr adroddiad mod i’n ddiog – os mae ffurflen dwyieithog dw i’n darllen y Saesneg yn aml achos mae’n haws a gyflymach… Mae well ‘da fi dau ffuflen uniaith i gael gwared o’r temtasiwn!

Adroddiad diddorol, werth darllen. Gobeithio bydd help pan cynllunio mwy o gyrsiau dwyieithog.

Dyma’r nodiadau o’r gwaithdy nes i yn y Cefnlen ar gyfer Hacio’r Iaith ‘Steddfod.

Powerpoint wael oedd e achos dim ond fy iPad sy gyda fi ar hyn o bryd – mae gliniadur wedi marw… A dw i casau Powerpoint gyda cas perfaith ac mae’n waeth nac erioed ar y pad!

Felly nawr, mae’n tecst yn unig eto!

Pwy / Pryd
•Leia – dysgwraig ers 4 mlynedd. (A sa i’n mynd i ymddiheuro am fy Cymraeg sori,)
•Gweithio fel athrawes o oedolion di-waith a prentisau
•Defnyddio cyfrifiaduron ers o’n i’n ferch fach gyda BBC micro lan lofft!
•Blogio ers dechreuais i ddysgu hedfan tua 8 mlynedd yn ôl

Pam
•Meddwl am ddysgu
•Helpu pethau i “stic”
•Helpodd e pan dysgu hedfan ac mae’n helpu fy myfyrwr i hefyd (Mae Estyn ac yn y blaen yn awyddus iawn i weld “reflecting on learning”) y dyddiau ‘ma
•Weld progres – ti’n gallu darllen cofnodion eto a weld sut ti wedi gwella
•Rhannu y proses
•Ymarfer sgiliau
•Cyfle am ymateb
•e.e ê
•Defnyddio’r iaith yn y byd go iawn – dw i moyn wneud y un pethau yn Cymraeg mod i’n wneud yn Saesng, a dw i’n blogio.

Beth / Sut
WordPress
•O’n i’n defnyddio fe yn barod
•Ar gael yng Gymraeg
Twitter
•Hawdd i ddechrau – neges mewn 140 – digon byr
•A does dim ots os ti’n siarad am dy frecwast 😉

Dinas Cymru

Dwedodd rhywun bod y Maes fel “Dinas ei hun – dinas Cymru” ac mae’n wir. Mae byd i gyd – byd Cymru – yno.

Ac mae partis hefyd! Nos Iau oedd y BBQ a Noson Lawen SSIW ac edrychais i yn ofalus iawn ar y tywydd pan pacio fy mag am y dydd! Yn arfer dw i’n defnyddio AccuWeather ond heddiw oedd yr app tywydd S4C yn fwy optimistig felly penderfynais i gredu hwn!

Ac oedd y tywydd yn garedig i ni, parhaodd yn braf ac yn dwym drwy’r noson. Oedd llawer o sgwrs, llawer o hwyl a llawer o ganu. Nes i dipyn dipyn ar y recorder a dysgais i fod rhaid i fi ddod â cherddoriaeth pan canu o flaen pobl hyd yn oed os dw i’n credu mod i’n gwybod yr alawon!

Pan oedd e’n tynnu at ddiwedd y nos (ar ôl Yma o Hyd ond cyn Hen Wlad Fy Nhadau) cwrddais i rywun o’n i feddwl oedd un o’r criw SSIW.

Dwedodd e “Mae’n braf i weld pawb un canu!”

“Ydy”, dwedais i. “Mae grŵp yn ymuno i mewn yn arbennig o dda!”

Wedyn esboniodd e nid un o’r criw SSIW oedd e ond Cymro Cymraeg sy wedi clywed ni a daeth draw i weld beth oedd yn digwydd!

Dyn ni wedi gwneud argraff arno dw i’n siŵr!

Dydd nesa o’n i’n ôl ar y maes a ges i siawns i grwydro. Oedd tipyn o fwd yn parhau ar y maes ond roedd llawer o “chippings” i lawr a pheiriant mawr yn sugno’r bant mewn un lle!

Welais i’r stondin Teyrnged i’r Beasleys. Oedd e’n hollol wag gydag amlinellau i ddangos pa ddodrefn collon nhw i’r beilïaid achos gwrthod nhw i dalu bil treth uniaith Saesneg. Oedd dyn yn y stondin yn esbonio’r stori wrth ei ferch fach ac oedd e’n amlwg mae hanes yn dal yn bwysig iawn i lawer o bobl. Oedd e’n drist iawn i godi ddoe i glywed ar a radio bu marw Eileen Beasley.

Daeth dydd Sadwrn rhy gyflym i fi ac arhosais i ar y maes nes y cyngerdd Dafydd Iawn. Ond e’n braf iawn i weld teuluoedd i gyd yn eistedd, yn canu, yn picnicio ac yn mwynhau!

Rhy gyflym, fel arfer!

Rhedais i i’r bws gartre, ges i un sgwrs olaf ar y trên a ‘n ôl â fi i’r byd Saesneg. Fel dysgwyr dyw’r “switsh iaith” yn fy mhen ddim yn gweithio yn dda a triais i archebu kebab yn Gymraeg ar ôl gyrraedd gartre!

Edrych ymlaen at flwyddyn nesa!

PILOTS ARE REQUESTED NOT TO OVERFLY CULTURAL EVENT WI 2NM RADIUS
LOCATION 5126N 00330W (LLANDOUGH) 12-08-0341/AS 6
LOWER: SFC
UPPER: 2400FT AMSL

Dyma oedd y neges gyntaf welais i pan es i i ddarllen y NOTAM (rhyw fath o rybuddion i beilotiaid am beth sy’n digwydd) dydd Mercher. Hyd yn oed pan dw i DDIM ar y maes doedd dim dianc!

Ar ôl y tywydd drwg dydd Mawrth oedd hi’n edrych yn dda i hedfan ond do’n i ddim ond hanner ffordd i Hwlffordd o Abertawe pan ges i alwad ar y radio. “Kilo Yankee, message from operator, RTB (Cer adre!) due to incoming fog at Swansea”

Grêt. Wnes i alwad radio i’r dyn ar y radio yn yr Ardal Beryglus Pen-bre i ofyn am ‘short cut’ drwy’r ardal a rhedais i gartre gyda fy nghynffon rhwng fy nghoesau! Oedd y niwl yn dod, yn wir! Dros y clogwyn a tuag at y maes awyr. Ond, y funud dw i wedi glanio – diflannodd!

Beth bynnag, dydd nesa, dydd Iau, oedd yn heulog iawn heb amheus ac o’n i’n ‘nôl ar y maes ac yn ôl yn y wisg Llychlynnwr hefyd.

Y peth sy’n sticio yn fy meddwl o’r Ŵyl hyd a hyn yw pa mor fach yw’r byd Cymry Cymraeg, mae Maes weithiau yn teimlo fel BBQ teulu mwya’ byd. Mae pobl yn sgwrsio ei gilydd ar drenau – sa i wedi gwneud unrhyw darllen ar y trên gartre drwy’r wythnos achos dw i wedi bod yn siarad gyda phwy bynnag oedd eistedd wrtha i ar y platfform. Mae’n hyfryd dros ben.

Eleni hefyd, dw i wedi cael nifer o sgyrsiau ble chododd DDIM y ffaith dw i’n dysgwraig, a hwn yn arbennig o dda i fi.

Ffrâs y dydd oedd “Popty Pinc” am y Pafiliwn!

Mawrth ar y Maes

Do’n i ddim yn mynd i fynd i’r maes dydd Mawrth ond pan oedd y tywydd rhy wlyb i hedfan Oedd chwant yn codi arna i i fod ar y maes er gwaetha’r glaw!

Oedd y Gala Comedi’r noson ‘na ond ar ôl llawer o feddwl, penderfynais oedd yn cwpla rhy agos at y trên olaf!

Mae trên o Ben-y-bont i Lanilltud yn od iawn beth bynnag. Mae bodoli mewn rhy fath o hanner-bywyd – dangos ar ybwrdd gwybodaeth ond nid yn y cyhoeddiadau PA ar yr orsaf. Yn yr amserlen ond dim yn y wybodaeth oedi ar y wefan. A does dim cliw bod y trên cywir ar y ‘steddfod!

Y holl reswm es i heddiw oedd achos y glaw felly doedd dim synod oedd e’n fwdlyd iawn! Oedden nhw roi rhyw fath o fatiau coch i lawr ond yr unig effaith oedd canolbwyntio’r dŵr fel effaith Venturi (cer i’r Babell Gwyddoniaeth) ac yn wneud y dŵr yn neidio i’r awyr a saethu i fyny dy drowsus di!

Es i eto i Dŷ Gwerin i glywed (a chanu tipyn tipyn) yn y sesiwn anffurfiol dyddiol. Oedd cwpl o ganeuon dw i’n gwybod ac os dim byd arall dw i’n gwybod dw i’n gallu chwarae digon tawel i ddim malu pethau ar gyfer pawb arall!

Es i hefyd o gwmpas y Lle Celf serch hynny sa i’n deall y Lle Celf – doliau iasol a lluniau o superglue. Beth?

Triais i beidio galw’r Maes Gwrdd y Maes Weird, ond ffilais…

Es i DDIM i unrhyw stondinau llyfrau Mae gormod o lyfrau gyda fi ar ôl lynedd!

Diwedd y dydd ges i dipyn o aros i wneud cyn y trên felly edrychais i am rywle i fwyta a des i o hyd il Vesuvio. Lle neis iawn gyda chroeso mawr i eisteddfodwyr!